Wythnos Cymorth Cristnogol 2026
Ledled Cymru, mae eglwysi wedi bod yn dod at ei gilydd mewn ffyrdd creadigol i roi, gweithredu a gweddïo dros gymunedau ledled y byd fel rhan o Wythnos Cymorth Cristnogol.
Eleni, rydym wedi bod yn clywed sut mae ein partner, Beacon of Hope, yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd sy’n wynebu newyn yn Kenya, gan rannu hyfforddiant ac adnoddau i dyfu llysiau maethlon gan helpu rhieni i gael bwyd ar y bwrdd ac arian i helpu gyda ffioedd i anfon eu plant i’r ysgol. Gwych yw gweld yr amrywiaeth o ddigwyddiadau lleol sy’n cael eu cynnal, felly dyma ambell un i roi cipolwg i chi o’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yng Nghymru.
Gwerthu planhigion
Hyfryd oedd gweld planhigion yn cael eu gwerthu ledled y wlad, ym Mangor, Penarth a Groeslon. Yn Efail Isaf, Pontypridd, cynhaliodd Capel Tabernacl weithdy i greu gerddi mewn terasau gyda pherlysiau, gan gysylltu â’r dechneg garddio fertigol y mae cymunedau yn Nairobi wedi bod yn ei defnyddio i dyfu cnydau.
Image credits and information
Cerdded
Manteisiodd llawer o gefnogwyr ar y tywydd da i gwblhau teithiau cerdded noddedig. Cwblhaodd Gareth Hughes 51 milltir ar Lwybr Arfordir Gogledd Cymru mewn 24 awr.
Cerddodd y cefnogwyr brwd, Catrin a Wes, bellter trawiadol yn ardal Llanfairfechan o’r Carneddau.
Fe wnaeth dau grŵp gwblhau Pererindod Penrhys; cwblhaodd Rob Moverley a David Nutbrown-Hughes y llwybr 22 milltir mewn un diwrnod. Dewisodd grŵp o Lanfair Penrhys wneud y Bererindod am yn ôl, gan fynd o Benrhys i Landaf dros ychydig ddyddiau. Hyd yma, maen nhw wedi codi dros £300 ar gyfer Cymorth Cristnogol.
Image credits and information
Pobl ifanc ac ysgolion
Roedd ein gwasanaethau ar-lein wedi dod ag ysgolion ledled Cymru ac Ysgol Beacon of Hope, Nairobi at ei gilydd ar gyfer cyfnod arbennig o ddysgu a chanu.
Cynhaliwyd nifer o heriau ‘70K ym mis Mai’, gan gynnwys Pennaeth Cymorth Cristnogol Cymru a’i theulu gyda’u ‘Her Teulu Tutesigensi’, cerdded i fyny Penyfan, Corn Du, coed Llwyn Celyn, glannau’r Taf a rhai o lwybrau arfordirol Ceredigion ger Mwnt.
Image credits and information
Yn Ardal Gweinidogaeth Afon Nedd, roedd plant ‘Sundays Cool’ wedi cynnal ras noddedig o amgylch Parc Victoria, gan godi dros £1350.
Yng Nghaerdydd, pleidleisiodd disgyblion Ysgol Gynradd Dinas Llandaf i ddod o hyd i’r ‘Traitors’ ymysg eu hathrawon, ac roedd Ysgol y Gadeirlan wedi cynnal Brecwast Mawr ar gyfer cymuned yr ysgol a’u teuluoedd.
Yng Ngwenfô, cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Gwenfô ddisgo mud noddedig!
Diolch o galon i’r holl ysgolion ac ysgolion Sul am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol eleni!
Image credits and information
Image credits and information
Arddangosfeydd celf
Eleni, dychwelodd Arddangosfa Gelf Caerffili i Eglwys URC Van Road. Cynhaliwyd yr arddangosfa gelf am wythnos, gydag artistiaid yn talu ffi bach i arddangos eu gwaith.
Cynhaliodd grŵp o eglwysi ym Mhorthcawl amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys glanhau traethau, gwerthu celf ac adloniant i bob oed.
Boreau coffi
Ni fyddai Wythnos Cymorth Cristnogol yn gyflawn heb fore coffi! Croesawodd eglwysi ar hyd a lled Cymru ymwelwyr gyda chacennau blasus wedi’u pobi’n ffres a phaneidiau poeth o de!
Yng Nghaerdydd, roedd Eglwys yr Atgyfodiad wedi cynnal bore coffi, gan godi dros £1000. Yn Chwilog, roedd cefnogwyr wedi cynnal Brecwast Bap Bacwn i fwydo’r cefnogwyr!
Roedd eglwysi ym Mhontarddulais wedi cynnal bore coffi a chasgliad Tesco, gan godi dros £1200.
Image credits and information
Cyngherddau, ffair a chasgliadau bwced
Roedd Methodistiaid Treganna wedi cynnal ffair nwyddau ail-law, arwerthiant planhigion a bore coffi, gan godi cyfanswm o fwy na £600.
Yng Nghlydach, roedd yr eglwysi wedi cynnal cyngerdd a noson gwis a chawsant hyd yn oed amser i gasglu arian mewn bwcedi yn y Co-op lleol.
Image credits and information
Addoli
Image credits and information
Diolch!
Mae pob rhodd, pob gweddi a phob gweithred yn gwneud gwahaniaeth. Diolch o galon i bawb a gymerodd ran yn Wythnos Cymorth Cristnogol, i’r trefnwyr anhygoel, y pobwyr cacennau, y cerddwyr, y dawnswyr a’r cwiswyr.
Gyda’n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth. Diolch yn fawr am eich ymrwymiad a’ch ymroddiad i helpu i greu byd tecach, gan helpu pobl fel Fridah a Belinda i dyfu bwyd i greu dyfodol lle gallan nhw a’u plant ffynnu.
Os ydych chi wedi cynnal digwyddiad ar gyfer Cymorth Cristnogol, byddem ni’n falch o glywed gennych. Neu, os hoffech chi gael gwybod sut gall eich eglwys chi gymryd rhan, cysylltwch â thîm Cymorth Cristnogol Cymru:
Ffôn: 029 2084 4646
E-bost: cymru@christian-aid.org