Bu'r gystadleuaeth Gymraeg eleni yn hynod boblogaidd ac, felly, yn un gystadleuol iawn. Cafodd y beirniad, Casia Wiliam, gryn waith i ddyfarnu pwy oedd y gorau wrth iddi ganfod safon uchel ymhlith y cystadleuwyr. Ond dewis fu raid - a dyma hwy'r enillwyr!
Diolch i bawb am eu hymgais a llongyfarchiadau mawr i'r enillwyr!
Casia Wiliam, Bardd Plant Cymru, yn cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Barddoni Divine am 2018 o stondin Cymorth Cristnogol ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Hari Holt o Ysgol Edern enillodd y gystadleuaeth gynradd. Dyma fo gyda Casia yn darllen ei gerdd.
Elis Roderick o Ysgol Bro Myrddin enillodd y gystadleuaeth uwchradd. Dyma fo gyda Casia yn darllen ei gerdd.