Yn Awst 2014 cyhoeddodd Swyddfa Cymorth Cristnogol Caerfyrddin, y gyfrol, Ehangu Gorwelion, gan Wynn Vittle. Mae'r llyfr yn olrhain hanes Cymorth Cristnogol yng Nghymru gydag argraffiadau personol yr awdur, a fu'n Ysgrifennydd Cymru i'r Mudiad am ddeunaw mlynedd, ynghyd â'i brofiadau o'i ymweliadau â deg o wledydd ar ran Cymorth Cristnogol.

Trefnwyd y byddai unrhyw elw o'r gwerthiant yn cael ei gyflwyno i brosiectau a gefnogir gan Gymorth Cristnogol. Bu'r ymateb i'r gyfrol yn hynod dderbyniol.
Bellach, medrwn gyhoeddi bod gwerthiant y llyfr wedi sicrhau £4,000 tuag at Raglen Iechyd Mamolaeth a gefnogir gan Gymorth Cristnogol yng ngwlad Ghana, Gorllewin Affrica.Gan fod apêl enwadol Undeb Bedyddwyr Cymru yn 2016 tuag at y rhaglen hon yn Ghana, penderfynwyd bod yr elw o werthiant y llyfr i'w gyflwyno drwy apêl y Bedyddwyr.
Bu darllen y gyfrol yn fodd i ehangu meddyliau'r darllenydd gyda gwybodaeth am ddechreuadau Cymorth Cristnogol yng Nghymru a thu hwnt. Bydd elw'r gwerthiant hefyd yn fodd i ehangu bywydau cannoedd o deuluoedd difreintiedig Ghana, lle mae 380 o bob 100,000 yn marw adeg genedigaeth. I geisio gwella'r sefyllfa druenus hon bydd cyflwyno elw’r gyfrol i’r Apêl yn fodd i achub bywydau mamau a babanod heddiw a chenedlaethau yfory yn Ghana.
Mae ychydig o gopïau o'r llyfr ar ol am £9.95. Os dymunwch gopi, cysylltwch â Swyddfa Cymorth Cristnogol, 75 Heol Dŵr, Caerfyrddin SA31 1PZ (ffon: 01267-237257; e-bost: caerfyrddin@cymorth-cristnogol.org)