Skip to main content

Cymdogion Byd-eang

Croeso i Gymdogion Byd-eang, ein cynllun achrediad cyffrous ar gyfer ysgolion. 

Mewn partneriaeth ac Addysg Yr Eglwys yng Nghymru, rydym eisiau annog dealltwriaeth ddyfnach o anghyfiawnder byd-eang ac arfogi dysgwyr ysgol ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn a dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd. 

Global Neighbours Cymru bilingual logo
Image credits and information i
Credit: Christian Aid
Martyn Geraint on stage at Urdd Eisteddfod 2025
Cân newydd i blant Cymru!

Ffrindiau Byd-eang (Helo, helo, sut wyt ti?)

Mae ein cân bachog 'Ffrindiau Byd-eang (Helo, helo, sut wyt ti?)' gan Martyn Geraint ac adnodd dysgu ar gael i ysgolion nawr!

Newyddion diweddaraf

Tymor yr Hydref

Achrediad Cymdogion Byd-eang cyntaf Gogledd Cymru!

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Pant Pastynog ar dderbyn eu gwobr efydd fel cydnabyddiaeth o bopeth y mae nhw'n ei wneud i chwarae ei rhan fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd

Mae nhw wedi cael eu hadnabod fel pencampwyr hyrwyddo dysgu byd-eang wrth gyfuno gwybodaeth, empathi, a gweithredu ystyrlon. Roedden ni'n falch i allu cyflwyno tysytysgrif iddynt mewn gwasanaeth arbennig.

Image credits and information i
Ysgol Pant Pastynog yn derbyn ei tystysgrif Cymdogion Byd-eang / receiving their Global Neighbours Certificate Credit: Karen Maurice / Church in Wales
Ysgol Pant Pastynog yn derbyn ei tystysgrif Cymdogion Byd-eang / receiving their  Global Neighbours Certificate
Mis Gorffennaf

Gwobr Cymdogion Byd-eang cyntaf Cymru

Rydyn ni mor gyffrous i gael ein hysgol cyntaf gyda achrediad Cymdogion Byd-eang yng Nghymru! 
 
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Wig a Marcroes wedi derbyn eu gwobr efydd sy’n cydnabod popeth y maent yn ei wneud i herio anghyfiawnder byd-eang.
 
 Maent wedi dangos sut y gall dinasyddiaeth fyd-eang fod wrth galon ysgol fach, gwledig gan ei drawsnewid i fod yn esiampl o ffydd, dathliad a gweithred. Roedden ni’n falch o gael dathlu gyda nhw a’u cyflwyno gyda tystysgrif mewn gwasanaeth arbennig cyn ddiwedd y tymor. 
Image credits and information i
Credit: Wick and Marcross CiW School
Pupils from Wick and Marcross school with certificate in frame
Mis Mehefin

Ysgol St Andrews Major yn ennill Gwobr Pwer Gobaith

Roedden ni mor gyffrous i weld Ysgol St Andrew's Major yn derbyn Gwobr Pŵer Gobaith mewn seremoni arbennig yn dilyn gwasanaeth pen-blwydd 80 oed Cymorth Cristnogol yn Abaty Westminster ar 12 Mehefin.  
 
Mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn defnyddio eu sgiliau artistig i godi ymwybyddiaeth o'r argyfwng hinsawdd, gan greu gwaith celf pwerus i'w arddangos yn eu hysgol, y Senedd a Thŷ'r Cyffredin.
Cyflwynwyd y wobr i Morgan a Tomas, dau o dywyswyr teithiau ifanc yr ysgol a gyflwynodd yr arddangosfa yng Nghaerdydd a Llundain. 
 
Image credits and information i
Disgyblion gyda Mr Trigg eu hathro a'r wobr. Credit: Mari McNeill/ Christian Aid
Pupils and teacher receiving award
Mis Mai

Lansiad Ffrindiau Byd-eang

Ar dydd Mercher Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr, mi roeddem ni’n lansio ein cân newydd Ffrindiau Byd-eang (Helo, helo, syt wyt ti?) gyda Martyn Geraint a dysgwyr o Ysgol Mynydd Cynffig ac Ysgol Dewi Sant, Llanilltud Fawr. 
 
Roedd y lansiad ffurfiol yn Yr Adlen gyda'r côr llawn yno cynhaliwyd dau berfformiad arall ar y maes gyda chriw llai yn canu gyda Martyn. Am ddiwrnod braf! 
 
Rydyn ni'n edrych ymlaen i glywed yr alaw bachog yn cael ei ganu o amgylch Cymru!
Bydd pecyn dysgu i gyd-fynd gyda'r gân a fideo gyda'r symudiadau yn dilyn yn fuan...  
 
 
Image credits and information i
Martyn a dysgwyr Ysgol Mynydd Cynffig ac Ysgol Dewi Sant yn perfformio'r gân y tro cyntaf yn yr Adlen. / Learners from Mynydd Cynffig Primary school and Ysgol Dewi Sant perform with Martyn to launch the song. Mai/May 2025 Credit: Mari McNeill/ Christian Aid
Martyn Geraint and learners on stage

Adnoddau

Adnoddau addysgu a gweithgareddau yn y Gymraeg ar gyfer ysgolion neu ieuenctid mewn cyd-destun arall.

Teimladau Hinsawdd

Adnodd i hybu dealltwriaeth emosiynol a gwytnwch.

Tu Hwnt i'r Stondin Deisennau

Syniadau ar gyfer eiriolaeth ddewr a chodi arian.

Cyfiawnder Hinsawdd neu Newid Hinsawdd

Ymchwilio ystyr cyfiawnder hinsawdd a newid hinsawdd.

Gêm fwrdd Dyfodol Difwg

Gêm fwrdd, gweithgaredd a syniadau addysgu

Ffrindiau Byd-eang (Helo, helo sut wyt ti?)

Cân newydd i blant Cymru gan Martyn Geraint a Cymorth Cristnogol

Myfyrdodau

Adnoddau yn y Gymraeg ar gyfer myfyrdod neu gydaddoli

Gwasanaethau Dyfodol Difwg

Gwasanaeth ysgol gyfan, cyfnod allweddol neu dosbarth.

Myfyrdod Wythnos Cymorth Cristnogol

Gwasanaethau a gweithgareddau eraill

Gweddi o Fyfyrdod

Gweddi am bobl mewn amseroedd o argyfwng

Dyma rhai o’r bobl ifanc ysbrydoledig oedd yn ein harddangosfa Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd yn y Senedd yn ystod wythnos COP 29 yn rhannu gwaith celf wedi ei greu gan ddysgwyr o ysgolion ar draws Cymru. 

Ewch i'n gwefan ar gyfer darganfod mwy am y prosiect Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd.

Tachwedd 2024

Lleisiau ifanc yn y Senedd

Dyma rhai o’r bobl ifanc ysbrydoledig oedd yn ein harddangosfa Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd yn y Senedd yn ystod wythnos COP 29 yn rhannu gwaith celf wedi ei greu gan ddysgwyr o ysgolion ar draws Cymru. 

Ewch i'n gwefan ar gyfer darganfod mwy am y prosiect Creadigol dros Gyfiawnder Hinsawdd.

Mwy gan Cymorth Cristnogol

Ysgolion a Ieuenctid yn y DU

Syniadau ac adnoddau pellach ar gyfer ysgolion a ieuenctid.

Christian Aid Collective

Rhwng 18-30 ac yn poeni am gydraddoldeb, urddas a chyfiawnder?

Cymorth Cristnogol

Darganfyddwch mwy am Cymorth Cristnogol yng Nghymru.