Skip to main content

Ffrindiau Byd-eang

Cân gyfeillgar sy’n ein hatgoffa bod pawb yn y byd yn gymydog byd-eang i ni. 

Mae’r gân yn adlewyrchu ffordd Cymorth Cristnogol o gyd-weithio gyda partneriaid yn fyd-eang ac wedi ei seilio ar eiriau Iesu yn Mathew pennod 22 i garu ein cymydog. 

Mae wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan y cerddor, cyflwynydd ac actor Martyn Geraint. Mae Martyn wedi cadw'r geiriau'n syml fel ei fod yn hygyrch i bob plentyn yng Nghymru.

Mae'n fan cychwyn gwych i ysgolion sy'n cychwyn ar y daith o achrediad Cymdogion Byd-eang.

Ffrindiau Byd-eang (Helo, helo, sut wyt ti?)

Gwrandewch ar eich hoff blatfform! Apple Music, Spotify, Amazon Music a mwy...

Adnoddau Ffrindiau Byd-eang

Mae'r pecyn dysgu isod yn cynnwys syniadau am weithgareddau cysylltiedig y gellir eu defnyddio gyda dysgwyr. Mae gwahanol gopiau o'r sgôr cerddoriaeth ar gael yma hefyd.

Cerddoriaeth Ffrindiau Byd-eang

Cerddoriaeth ar gyfer piano a llais

Pecyn Ffrindiau Byd-eang

Adnodd i athrawon i gyd-fynd â'r gân

Mwy gan Cymorth Cristnogol

Ysgolion a Ieuenctid yng Nghymru

Newyddion diweddaraf ac adnoddau yn y Gymraeg

Creative for Climate Justice

Explore the climate crisis and get Creative for Climate Justice.

Gêm fwrdd Dyfodol Difwg

Gêm fwrdd, gweithgaredd a syniadau addysgu