Byddwch yn dangnefeddwr y Nadolig hwn trwy gefnogi Cymorth Cristnogol yn ein Hapêl Nadolig a chefnogi pobl sy’n dod dros drais ac anghydfod o amgylch y byd.

Mae nifer o adnoddau gwych yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer eich eglwys ac ysgol fydd o help ichi ddathlu’r Nadolig a helpu Cymorth Cristnogol ar yr un pryd.
Mae trais yn dinistrio bywydau, yn dadwneud blynyddoedd o waith datblygu ac yn rhwygo cymunedau ple bynnag y bydd yn codi ei ben. Ond er bod heddwch yn cael ei ddinistrio pob dydd, mae hefyd yn cael ei adeiladu pob dydd gan ferched a dynion sy’n benderfynol o iachau a thrawsffurfio eu cymunedau.
Dyma’r rhai sydd ar linell flaen adeiladu heddwch mewn llefydd fel De Swdan, Colombia, Myanmar a Brasil.
Pobl fel Diana a Hamza yn Libanus. Cewch eich ysbrydoli trwy ddarllen eu hanes a chyfle i gefnogi gwaith tebyg.
#Tangnefeddwyr #Nadolig18

Er mwyn gweld pa adnoddau sydd ar gael ewch i’r dudalen hon