Skip to main content

Apêl Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru

Cefnogi heddwch yn Ne Swdan

Canon Carol Wardman, Yr Eglwys yng Nghymru; Mari McNeill, Pennaeth Cymru, Cymorth Cristnogol; Sharon Lee, Housing Justice Cymru; a'r Archesgob John Davies.

Wrth i’r Eglwys yng Nghymru ddathlu ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf, mae Cymorth Cristnogol yn falch o allu cyhoeddi fod yr Eglwys wedi lansio apêl pum mlynedd i gefnogi’r gwaith pwysig o adeiladu heddwch yn Ne Swdan, fel rhan o’r dathliad.

Lansiwyd Apêl Canmlwyddiant yr Eglwys yn swyddogol mewn cyfarfod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys, a gynhaliwyd yn Abertaweym mis Medi 2019. Apêl ar y cyd gyda Housing Justice Cymru fydd hon a chaiff y rhoddion eu rhannu’n gyfartal rhwng y ddwy elusen. Y nod yw codi £100,000 dros y bum mlynedd nesaf.

Plwyfolion hael

Wrth wneud sylw ar haelioni’r plwyfolion pan anwyd yr Eglwys yng Nghymru yn 1920, dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, ‘Yn ôl yn 1920 fe wnaethon ni lansio apêl i sefydlu’r Eglwys yng Nghymru ac fe gyfrannodd plwyfolion o bob eglwys yng Nghymru ar raddfa mor hael nes bod yr Eglwys wedi cael ei chynnal am 100 mlynedd. Allaf i ddim meddwl am ffordd well i ddathlu’r pen-blwydd na thrwy lansio apêl sylweddol arall i godi arian - nid i ni’n hunain ond i’r rhai mewn angen, gartref a thros y môr. Rwy’n hyderus y bydd pobl yn ymateb gyda’r un haelioni a brwdfrydedd. Rwy’n gofyn hefyd ichi weddïo dros y prosiectau hyn: dros y rhai sy’n eu rhedeg, dros y bobl y byddan nhw’n eu helpu, a gweddïo am yr egni a’r ymroddiad i’w defnyddio ac i atgyfnerthu Teyrnas dduw o gyfiawnder a heddwch, undod a thrugaredd.’

Mae’n gyd-ddigwyddiad fod Eglwys Esgobol De Swdan hefyd yn dathlu ei chanmlwyddiant yn 2020 ac mai Cymro oedd ei hesgob cyntaf, Llewelyn Henry Gwynne o Abertawe. Heddiw, mae gwaith yr Eglwys yn adeiladu heddwch mewn gwlad sy’n llawn anghydfod yn cael ei gydnabod fel cyfraniad allweddol. Mae Pwyllgor Cyfiawnder, Heddwch a Chymod (JPRC) - adran o Eglwys Esgobol De Swdan - yn bartner i Cymorth Cristnogol.

Adeiladu heddwch

Trwy ei weithgarwch megis gweithdai heddwch a chymod, iachau trawma, cynadleddau, eiriol, gwylnosau gweddi heddwch, hyfforddiant ar gyfer arweinwyr eglwysig, ieuenctid, cymunedol a sifil a phenaethiaid llwythol, mae gan y JPRC weledigaeth i weld cymdeithas heddychol, fydd yn rhydd o drais a chasineb ac mae’n cyrraedd cannoedd o bobl gyda’i neges o obaith.

Nod Apêl Canmlwyddiant yr Eglwys yng Nghymru yw codi arian i dalu cyflog aelod ychwanegol o staff oddi fewn i JPRC, fydd yn golygu y gall y gwaith angenrheidiol hwn ehangu mewn cyfnod tyngedfennol ym mywyd y genedl.

Dywedodd Mari McNeill, pennaeth Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn gefnogwr allweddol i Cymorth Cristnogol drwy 70 mlynedd ein bodolaeth. Rydym wrth ein bodd yn gweld yr ymrwymiad diweddaraf hwn gan yr Eglwys i weithio mewn partneriaeth â ni dros urddas, cydraddoldeb a chyfiawnder i bobl sy’n byw ynghanol realaeth tlodi eithafol yn Ne Swdan ble mae gwrthdaro’n gwaethygu’r tlodi a’r argyfwng dyngarol. Bydd yr arian gaiff ei godi yn mynd tuag at gefnogi’r rhai sy’n ymwneud â gweithgareddau adeiladu heddwch yn Ne Swdan. Trwy haelioni aelodau’r eglwys, bydd yr Eglwys Yng Nghymru yn helpu cymunedau i ymateb i wir heriau adeiladu heddwch gyda dewrder a gobaith.’

Sefyll mewn undod

Dywedodd Canon Carol Wardman, Cynghorydd yr Esgobion ar gyfer yr Eglwys a’r Gymdeithas, ‘Rydym yn ymrwymo i godi £100,000 ond petai pawb yn ein heglwysi’n rhoi ychydig o bunnoedd yn unig, byddem yn codi mwy na’r swm hwnnw mewn dim o dro. Fodd bynnag mae’n nod yn ymwneud â mwy na chodi arian - mae hefyd yn golygu dyfnhau’n dealltwriaeth a’n cydsafiad gyda phobl sy’n profi caledi a thlodi, a datblygu’n perthynas gyda’r sefydliadau sy’n eu helpu.’

Gellid cyfrannu tuag at yr Apêl trwy safle Instagiv, fel bod pobl yn gallu cyfrannu swm penodol trwy afon testun ar eu ffôn, yn ogystal â thrwy ddulliau traddodiadol.

Dyma ffilm fer am bwysigrwydd adeiladu heddwch yn Ne Swdan.