Mae Cystadleuaeth barddoni Divine yn awr ar agor i dderbyn ymgeiswyr! Dyma gyfle gwych i danio'ch dychymyg, ysgogi'ch creadigrwydd a dysgu am siocled Divine. Mae'r gystadleuaeth ar gyfer cystadleuwyr Cymraeg a Saesneg ac y mae gwobrau ardderchog.
Y beirniaid eleni yw Casia William, Bardd Plant Cymru, ar gyfer y cerddi Cymraeg, a'r awdur cydnabyddedig Cas Lester ar gyfer y rhai Saesneg.
Y dyddiad cau yw 30 Ebrill 2018.
Dylech anfon eich cerddi Cymraeg i swyddfa Cymorth Cristnogol yng Nghaerdydd, un ai trwy'r post neu ebost cymru@cymorth-cristnogol.org
Ewch i wefan Divine am fwy o wybodaeth a phob lwc!