Skip to main content

Mae De Sudan yn parhau i brofi gwrthdaro, dadleoliad, ansicrwydd bwyd ac effeithiau dwys yr argyfwng hinsawdd. Ond er gwaetha’r heriau, mae ein partneriaid yn parhau i weithio ochr yn ochr â chymunedau, gan gefnogi pobl i adeiladu gwytnwch, ymateb i argyfyngau a chreu newid cynaliadwy.

Image credits and information i
Credit: Christian Aid
Angelina Nyajima Simon Jial

Ymunwch â ni i groesawu Angelina Nyajima Simon Jial i Gymru.

Angelina ydy Sefydlwr a Chyfarwyddwr Hope Restoration South Sudan, un o bartneriaid Cymorth Cristnogol – mudiad arweinir gan fenywod sydd yn denu ar brofiad bywyd er mwyn nerthu cymunedau bregus sydd wedi’u heffeithio gan wrthdaro, dadleoliad a thrychinebau naturiol. Pwrpas eu gwaith ydy hyrwyddo datblygu cynaliadwy, hawliau dynol a heddychu, gyda phwyslais arbennig ar fenywod, merched, pobl ifanc a grwpiau ar y cyrion.

Upcoming events

Capel y Tabernacl, Penybont

Dydd Sul 18 Hydref, 10.30yb

Oedfa diolchgarwch yng nghwmni ein gwestai Angelina Nyajima Simon Jial. Croeso cynnes i ymuno yn yr oedfa dwyieithog yma dan ofal y Parch Dylan Rhys Parry.

Bydd lluniaeth ysgafn yn dilyn yr oedfa. 

Prifysgol Caerdydd

Dydd Llun 19 Hydref, 1-2.30yp

Mae gwahoddiad i chi ymuno yn y sgwrs amser cinio yma rhwng Dr Nicki Kindersley ac Angelina Nyajima Simon Jial. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn Ystafell Pwyllgor 2, Adeilad Morgannwg.

Gaia Mystwyr Abertawe

Dydd Llun 19 Hydref, 6-8yh

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn yn Mystwyr Abertawe. Dan osodiad celf trawiadol y 'Gaia', gwaith gan yr arlunydd Luke Jerram, rydym yn eich gwahodd i noson i glywed gan Angelina Nyajima Simon Jial, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Hope Restoration South Sudan.

Eglwys Bedyddwyr Ararat, Caerdydd

Dydd Mercher, 21 Hydref 6-7.30yh

Fe'ch gwahoddir i ymuno â ni mewn noson anffurfiol i fwynhau lluniaeth ysgafn Sudanaidd a chlywed gan Angelina Nyajima Simon Jial, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Hope Restoration South Sudan a Israa Mohommad, Cadeirydd Global Health Partnerships Cymru.

Os nad ydych yn gallu ymuno gyda ni yn un o'n cyfarfodydd yng Nghymru, mae cyfle arall i chi ymuno gyda cefnogwyr ar draws y DU i glywed gan Angelina a phartneriaid eraill o Dde Sudan ar-lein ar Hydref 22 am 7yh.

More from Christian Aid Wales

Llygaid Cymru ar Dde Sudan - gwebinar

Ymunwch â ni am sgwrs rithiol gyda James Wani, Arweinydd Rhaglen a Phartneriaeth Cymorth Cristnogol yn Ne Sudan.

Harvest Appeal

This Harvest, support people growing hope for their families.

Ein hanes yng Nghymru

Datblygiad Cymorth Cristnogol yng Nghymru.