Skip to main content

Event details

Address:

Lawnt Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
United Kingdom

Date:
Event Link:
Oes gennych chi le eich hun?

Gallwch chi dal godi arian ar ein cyfer! Cysylltwch â cymru@cymorth-cristnogol.org er mwyn cefnogi gwaith sy'n trawsnewid bywydau ledled y byd.

Hoffech chi ymuno â Thîm Cymorth Cristnogol?

Click to view the page in English.

Ymunwch â ni yng nghyfranogiad torfol a digwyddiad codi arian aml-elusennol mwyaf Cymru.

Ewch heibio holl olygfeydd a thirnodau eiconig mwyaf syfrdanol y ddinas gan gynnwys Castell Caerdydd, Stadiwm y Principality, y Ganolfan Ddinesig a’r Bae Caerdydd trawiadol, tra'n codi arian hanfodol i ddileu tlodi.

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ddigwyddiad sy'n gyfeillgar i deuluoedd llawn awyrgylch bywiog a drefnwyd gan Run 4 Wales, ymddiriedolaeth elusennol nid-er-elw a sefydlwyd i reoli a chynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng Nghymru.

Ymunwch â Thîm Cymorth Cristnogol yn Hanner Marathon Caerdydd drwy gofrestru heddiw ar gyfer un o'n lleoedd dynodedig elusennol.

Ffi Gofrestru: £15

Targed Codi Arian: £300

Fel aelod o'n tîm, byddwch yn derbyn:

  • Fest rhedeg Cymorth Cristnogol wedi’i brandio. 
  • Cefnogaeth barhaus gyda'ch taith codi arian.  
  • Cefnogaeth wedi'i bersonoli gan ein Tîm Codi Arian Digwyddiadau gan gynnwys galwadau ffôn a diweddariadau e-bost rheolaidd.
  • Mynediad unigryw i'n grŵp Facebook Hyrwyddwyr Cymorth Cristnogol am gefnogaeth gan ein tîm rhedeg
  • Cyngor ar hyfforddiant a ffitrwydd
  • Canllawiau ar hyrwyddo a gwneud y mwyaf o'ch codi arian trwy dudalennau rhoi ar-lein ac adnoddau datganiadau i'r wasg.
  • Digon o anogaeth, brwdfrydedd a chefnogaeth drwy gydol eich her.

 

  • Current Gwybodaeth bersonol
  • Mwy o wybodaeth
  • Complete
Personal information
Ymunwch â’n tîm Hanner Marathon Caerdydd!

Diolch am eich diddordeb mewn rhedeg ar gyfer Cymorth Cristnogol! Bydd yr arian rydych chi'n ei godi yn cefnogi ein gwaith ac yn helpu i oresgyn tlodi mewn cymunedau ledled y byd.

Llenwch eich manylion isod fel y gallwn bostio'ch pecyn nawdd a'ch cefnogi cyn diwrnod y ras.

Mae lleoedd yn cael eu cadarnhau ar sail y cyntaf i'r felin. Cofrestrwch nawr i sicrhau eich lle ar Dîm Cymorth Cristnogol.

Pwysig: Sicrhewch fod gennych gadarnhad o'ch lle gyda Chymorth Cristnogol cyn i chi ddechrau codi arian.

Chwiliwch am gyfeiriad

Oes gennych unrhyw gwestiynau?

 

Rydym yma i hyrwyddo eich digwyddiad, gan gefnogi gyda hyrwyddo, adnoddau a chyngor ymarferol. E-bostiwch ein Tîm Codi Arian Digwyddiadau cyfeillgar ar events@christian-aid.org neu ffoniwch 020 7523 2493.