Hwb enfawr i’n gwaith yn Sierra Leone

Ebrill 30 2008

Mae egni a brwdfrydedd capelwyr Cymru wedi helpu Eglwys Bresbyteraidd Cymru (EBC) i godi tua £250,000 (€318,000) i Sierra Leone.

Cyflwynwyd siec am £244,609 i Cymorth Cristnogol, mewn noson jazz yn Aberystwyth yn ddiweddar, i ddathlu llwyddiant apêl EBC dros wlad dlotaf y byd.

Er nad yw’r rhoddion Rhodd Cymorth wedi eu prosesu eto, fe allent ychwanegu £30,000 arall i’r swm terfynol.

Yn ôl Llywydd yr Eglwys, Parch John Owen, roedd y swm y tu hwnt i’r disgwyliadau. “Rhaid i mi longyfarch ein haelodau am eu haelioni a’u gwaith caled” meddai.

Ychwanegodd Jeff Williams, ysgrifennydd cenedlaethol Cymorth Cristnogol yng Nghymru, ‘Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru am fod mor barod i ymateb i’r apêl.’

‘Mae chwarter miliwn o bunnoedd yn swm anrhydeddus dros ben a bydd yr arian yn gymorth mawr wrth i ni frwydro yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder yn Sierra Leone.’

 

 

Donate

Together we can fight poverty

Regular donation
Single donation
GB Pounds (GBP)