Ebrill 17 2008
Mae Eirian Samuel, cydlynydd addysg Cymorth Cristnogol yng Nghymru yn gobeithio codi £2,000 ar ôl gorffen Marathon Flora Llundain mewn ychydig dros bum awr.
Roedd Eirian (gweler uchod ar ddiwedd y ras 26 milltir) yn un o thua 30 o staff a chefnogwyr Cymorth Cristnogol i redeg yn y marathon dydd Sul diwethaf er mwyn codi arian at waith y mudiad.
I Eirian, roedd cyrraedd y llinell derfyn yn Pall Mall yn gwireddu hen freuddwyd. Yn rhedwraig frwd, sydd eisoes wedi rhedeg tri hanner marathon – dau yng Nghaerdydd ac un yn Surrey – mae wedi addo i’w hun lawer tro y byddai rhyw ddydd yn rhedeg marathon Llundain.
Ymunodd Eirian, sy’n wreiddiol o Brestatyn ond sydd bellach yn byw yn Nhongwynlais, ger Caerdydd, â thîm Cymru o Cymorth Cristnogol yn 2003 ac mae’n gweithio yn y swyddfa yng Nghaerdydd.