Diolch i’n cefnogwyr

Mai 23 2008

Dechreuodd pethau gyda gwasanaeth awyr agored yn adfeilion Abaty Glyn y Groes, ger Llangollen, a gorffen gyda noson o gerddoriaeth gwerin, pop ac electronig mewn clwb yng Nghaerdydd.

Diolch yn fawr i’n holl gefnogwyr yng Nghymru a ddaeth i’r digwyddiadau hyn a rai eraill yn ystod Wythnos Cymorth Cristnogol (Mai 11-17). 

brigynA_BOD

Daeth mwy na 200 o bobl i Abaty Glyn y Groes ar y Sul cyntaf. Yn cymryd rhan roedd côr gospel a dau o’r grwp sy’n addysgu eu cyfoedion ar HIV ac a fu yn Sierra Leone gyda Cymorth Cristnogol yn Chwefror - Catherine Peake a Shauna Roberts.

“Roedd yn brofiad anhygoel i annerch dros 200 o bobl mewn lleoliad mor ffantastig,” meddai Catherine. ”Roeddem wrth ein bodd yn rhannu storïau partneriaid Cymorth Cristnogol yn Sierra Leone gyda hwy.”

“Ar ôl y gwasanaeth fe wnaethom ni gyfarfod a llwyth o gefnogwyr a chael picnic yn yr heulwen. Dechrau gwych i Wythnos Cymorth Cristnogol 2008!” 

Pob math o ddigwyddiadau

Cafwyd cymysgedd diddorol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos – o’r arwerthiant planhigion blynyddol yng Nghaerdydd i nifer o nosweithiau Quizaid ar draws y wlad.

Daeth y cyfan i ben ar nos Sadwrn Mai 17 yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd. Er y siom bod Clwb Pêl droed Caerdydd wedi methu ennill Cwpan yr  FA, daeth nifer o fans cerddoriaeth i wrando ar rai o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin pop Cymraeg.

Roedd y noson yn cynnig cymysgedd o gerddoriaeth gwerin, pop ac electronig. Y band un dyn, Messner, dechreuodd y noson, gyda Clinigol, y band pop electronig yn dilyn.  

Roedd y bardd a’r gantores, Gwyneth Glyn, yn hapus i gefnogi Cymorth Cristnogol unwaith eto, ar ôl perfformio yn Rali Torrwn y Carbon yng Nghaerdydd yn 2007. Un o’r caneuon a ganwyd ganddi oedd ‘Gaea’n Gynnar’, a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y rali. 

Brigyn, un o ffefrynnau'r sin gerddoriaeth yng Nghymru (yn y llun), ddaeth a’r noson, ac Wythnos Cymorth Cristnogol, i ben gyda chaneuon o’u halbwm newydd,  ‘Brigyn 3’.

Donate

Together we can fight poverty

Regular donation
Single donation
GB Pounds (GBP)

Sign up for emails