DEC Cymru yn lansio apêl wrth i dimau o’r asiantaethau dyngarol rhyngwladol a nwyddau argyfwng gyrraedd Burma/Myanmar.
Ddoe fe lansiodd Pwyllgor Brys yr Argyfyngau apêl i gynorthwyo’r rhai a oroesodd y seiclon dinistriol sydd wedi effeithio rhannau helaeth o Myanmar (Burma).
Daeth cynrychiolwyr o’r asiantaethau sy’n rhan o DEC Cymru ynghyd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd er mwyn galw ar bobl Cymru i gyfrannu arian at yr apêl.
Y mae angen yr arian er mwyn cynorthwyo’r asiantaethau, sy’n aelodau o DEC Cymru, i gyflawni gwaith argyfwng brys ynghyd â chymorth yn y tymor hir yn yr ardaloedd a effeithiwyd.
Dywedodd Richard Laydon, Cadeirydd DEC Cymru: ‘Wrth i fwy o gymorth cyrraedd Myanmar y mae DEC Cymru yn gofyn i bobl Cymru gyfrannu ar unwaith i’w Apêl Seiclon Burma/Myanmar.
Caiff cyfraniadau’r cyhoedd eu defnyddio ar gyfer anghenion brys megis bwyd, dwr glân, meddyginiaethau a lloches. Ond mae’n ymddangos bod maint y difrod gymaint fel bydd angen ymdrech arbennig mewn cymorth i ail-adeiladu’r wlad dros y misoedd nesaf.’
Er mwyn cyfrannu, ymwelwch â www.dec.org.uk neu ffoniwch: 0870 60 60 900
Yr asiantaethau sy’n rhan o DEC Cymru yw’r Groes Goch; Oxfam Cymru; Tearfund; Cafod Wales; Achub y Plant; Cymorth Cristnogol a Help the Aged yng Nghymru.