Cynhaeafu llwyddiant yn India wledig

Mai 06 2008

Swynwyd cynulleidfaoedd yng Nghymru'r wythnos ddiwethaf gan stori ryfeddol grwp o wragedd sydd wedi gweld eu cynhaeaf yn cynyddu chwe gwaith cymaint, a hynny yn un o ardaloedd tlotaf a sychaf India wledig.

Mae’r 5,000 o wragedd sy’n aelodau o’r Deccan Development Society (DDS) - partner Cymorth Cristnogol yn nhalaith Andhra Pradesh - wedi llwyddo i wneud hyn trwy ddulliau ffermio organaidd, a heb ddefnyddio cemegau neu bla laddwyr.

Dom, gwrtaith a chnydau sy’n amsugno nitrogen i’r pridd o’r awyr, sy’n cael eu defnyddio i ffrwythloni’r tir, ac fe gyfyngir ar heintiau i’r cnydau trwy dyfu cymysgedd o amrywiaethau traddodiadol gwydn. Mae’r meysydd di-gemegau yn cynnig amgylchedd croesawgar i frogaod, adar a phryfed ysglyfaethus sy’n cadw plâu i ffwrdd.

Taro tant

Adroddwyd stori’r gwragedd gan PV Satheesh, ysgrifennydd cyffredinol DDS, wrth iddo dreulio’i wythnos yn teithio o gwmpas Cymru yn siarad gyda grwpiau o gefnogwyr. Yn sicr roedd y pwyslais a rhoddir gan DDS ar ail-ddarganfod dulliau traddodiadol o ffermio ac adeiladu cymunedau, yn taro tant gyda’r rhai fu’n gwrando ar Satheesh.

'Y tristwch yw ein bod ni wedi colli cysylltiad â’r pethau hyn, ond mae’n dda clywed eu bod yn dal yn bwysig yn yr India,' meddai Bernard Jubin o Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd Parch. Jenny Garrard o Gaersws yn cytuno. ‘Dydw i erioed wedi clywed siaradwr tramor Cymorth Cristnogol gyda stori mor glir ac mor galonogol. Roedd yn noson wych.’

Mae Cymorth Cristnogol wedi cefnogi DDS ers chwarter canrif, gan helpu’r mudiad i gefnogi pwyllgorau gwragedd egniol mewn 77 pentref. Dalits yw’r mwyafrif ohonynt - y grwp mwyaf difreintiedig yn strwythur cymdeithasol yr India - ac eto maen nhw wedi trawsffurfio bywydau eu cymunedau.

Cymunedau wedi eu trawsffurfio

Yn y dechrau cymorth bwyd oedd prif ffocws DDS - yn ceisio sicrhau fod y teuluoedd tlotaf yn cael dau bryd bwyd y dydd. Ond yn fuan fe ehangodd y gwaith i helpu gwragedd i sicrhau cyflenwad bwyd tymor hir i’w teuluoedd, yn ogystal â threfnu rhaglenni i wella addysg, gofal iechyd a gwarchod yr amgylchedd.

‘Wrth ymwneud â’r materion hyn mae’r gwragedd wedi darganfod fod ganddynt rym ac maen nhw wedi dod o hyd i urddas newydd,’ medd Satheesh.

Mae’r gwragedd mai DDS yn gweithio gyda hwy, yn ardal Medak o Andhra Pradesh, wedi llwyddo mewn adeg pan fod ffermio yn India yn wynebu argyfwng. Yn ôl Satheesh, ‘Mae polisïau’r llywodraeth wedi arwain at gwymp nifer o ffermwyr bach oherwydd gorddibyniaeth ar gnwd arian parod a dyled, ac yn drist iawn gwelwyd mwy na 150,000 o hunanladdiadau yn y gymuned amaethyddol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf.’

Er gwaethaf pob disgwyl

Mae pob un o ffermwyr DDS yn derbyn 15 math gwahanol o had i’w blannu, ac mae nifer o’r pentrefi wedi sefydlu eu banc hadau ei hun er mwyn diogelu’r mathau traddodiadol a’u galluogi i fenthyg had i eraill llai ffodus. Mae sawl cymuned wedi gwneud archwiliad anghenion o’u cymunedau er mwyn sicrhau fod anghenion pob cartref yn cael eu cyflenwi.

Mae Satheesh yn ymfalchïo yn y llwyddiant yma. ’Mae saith deg saith o gymunedau yn cynhyrchu’r holl fwyd a phorthiant sydd eu hangen arnynt yn ogystal â darparu ar gyfer y rhai heb dir, y tlawd a’r anghenus yn eu cymunedau,’ meddai.

Rhannu’r neges

Ond nid cefnogwyr Cymorth Cristnogol yng Nghymru yw’r unig rhai i glywed am y llwyddiant yma. Trefnir Gwyl Deithiol Flynyddol Bioamrywiaeth gan DDS, sydd wedi rhoi’r cyfle i’r gwragedd rhannu eu neges am ‘amaethyddiaeth ecolegol’ gyda 300,000 o ffermwyr ar draws rhanbarth Andhra Pradesh.

Mae’r gwragedd hefyd wedi dechrau eu gorsaf radio cymunedol eu hun ac wedi cynhyrchu sawl ffilm ac fe ddangoswyd rhai ohonynt yng Ngwyl Ffilmiau Rhyngwladol Mumbai.

Os am fwy o wybodaeth am waith Deccan Development Society ewch i wefan DDS.

Os hoffech wybod sut y gallwch wneud gwahaniaeth i gymunedau sydd ar y cyrion ac yn dlawd iawn, tebyg i bentrefi gwledig rhanbarth Medak, ymwelwch â life on the margins.

Addysg gyda DDS

Cliciwch yma

Donate

Together we can fight poverty

Regular donation
Single donation
GB Pounds (GBP)