Mai 07 2008
Ymwelodd pennaeth un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn yr India â phlant ysgol yng Nghymru wrth iddyn nhw ymuno gyda miliynau o bobl ar draws y byd mewn ymgais i gynnal gwers fwya’r byd.
Bu PV Satheesh o’r Deccan Development Society (DDS) yn Ysgol Rhyd y Grug, ger Merthyr yn trafod y sustem addysg yn India, fel rhan o’r diwrnod ‘anfonwch fy ffrind i’r ysgol’ a drefnwyd gan yr Ymgyrch Addysg Byd Eang (YABE).
Roedd tua 7.5 miliwn o bobl o 120 o wledydd - gan gynnwys myfyrwyr o Gymru - yn cymryd rhan yn y wers fyd-eang ar 23ain o Ebrill. Mae’r YABE yn galw ar lywodraethau i weithredu ar frys er mwyn sicrhau bod y nod a osodwyd gan y CU i roi addysg gynradd i bob plentyn erbyn 2015 yn cael ei gyrraedd. Gyda 7 mlynedd i fynd, y mae 72 miliwn o blant yn dal heb gael y cyfle i fynd i’r ysgol.
Eglurodd Satheesh i ddisgyblion Ysgol Rhyd y Grug pam fod merched yn arbennig, mewn rhannau eraill o’r byd, ddim yn mynd i’r ysgol. Rhai o’r rhesymau yw cyfrifoldeb am orchwylion y cartref, gweithio i helpu cynnal y teulu a gorfod priodi’n ifanc iawn.
‘Dyna pam fod addysg yn rhan allweddol o waith DDS,’ meddai. ‘Mae’n arf pwysig yn yr ymdrech i roi grym i wragedd a’r tlodion yn India’.
Mynd i’r afael
Mae rhaglen eang DDS yn cynnwys ystod o weithgarwch addysgiadol, o ganolfannau gofal plant syml, ‘balwadies’, sy’n cyfuno dysg greadigol gyda chwrdd ag anghenion maeth sylfaenol y plentyn, i’r ysgol werdd, ‘pacha saale’, sy’n rhoi addysg ffurfiol a hyfforddiant mewn sgiliau bywyd i blant rhwng 10 a 16, yn arbennig merched sydd wedi colli allan ar addysg oherwydd y rheidrwydd i weithio,
‘Yr ydym hefyd yn cynnal gweithdai cynhwysfawr i wragedd hyn ac mae gennym 30 o ysgolion nos mewn pentrefi i blant sy’n gweithio,‘ meddai Satheesh.
Mae bron i 1,000 o blant yn mynychu’r ysgolion nos, tua 50% ohonynt yn ferched. Dynion a gwragedd o’r cymunedau dalit lleol yw’r athrawon, sydd wedi derbyn ychydig o addysg a hyfforddiant.
Anogir dulliau dysgu sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ac mae’r addysg yn cwrdd ag ystod eang o faterion, o lythrennedd i sgiliau byw. Mae plant yr ysgolion nos yn symud ymlaen wedyn i ysgolion haf cyn mynd i ysgolion prif ffrwd.
Y Cynulliad Cenedlaethol
Ar y diwrnod canlynol ymwelodd Satheesh â Chynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer digwyddiad arall YABE. Roedd Oxfam Cymru wedi llunio arddangosfa o luniau yn dangos rhai o’r prif resymau pam fod plant yn colli allan ar eu haddysg. Roedd mwy nag 20 o aelodau’r cynulliad wedi arwyddo bwrdd du yng nghyntedd y Cynulliad yn cefnogi’r ymgyrch.
Bu Satheesh ynghyd ag Eirian Samuel (Cymorth Cristnogol) a Rhod Griffiths (Oxfam Cymru), yn tywys Jane Hutt, Gweinidog Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, o amgylch yr arddangosfa.
Bu’r gweinidog hefyd yn cyfarfod â phenaethiaid Cymorth Cristnogol ac Oxfam yng Nghymru, er mwyn trafod addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn ysgolion Cymru.