Mae newid hinsawdd yn fater o anghyfiawnder byd-eang, fydd yn gwneud y bobl dlotaf yn ein byd yn dlotach.
Y mae’r adnodd newydd a chyffrous hwn yn herio’r Eglwys a Christnogion unigol i beidio parhau’r dinistr sydd ynghlwm mewn newid hinsawdd, ond yn hytrach i gymryd camau cadarnhaol er lles y byd.
Y mae’r pecyn yn cynnwys cyfres o gardiau yn rhoi arolwg o’r materion sydd eisoes yn effeithio gwaith ein partneriaid, myfyrdodau Beiblaidd a gweddïau, syniadau ar gyfer gweithgarwch, a mesurydd CO2 personol.
Gellir lawr-lwytho’r pecyn - neu ffonio 029 2084 4646 i archebu copïau yn rhad ac am ddim.
• i lawr-lwytho’r cardiau (PDF)
• i lawr-lwytho’r blygell (PDF)